Mae NestEgg yn noddi gwobrau undebau credyd

Mae’r cyflenwr meddalwedd undebau credyd, NestEgg, wedi cytuno i fod yn noddwr Gwobrau Undebau Credyd Cymru 2023 am yr ail flwyddyn yn olynol.
Bydd y gwobrau blynyddol yn dathlu cyfraniad gwirfoddolwyr, aelodau, ysgolion a chyflogwyr partner i lwyddiant parhaus y mudiad undebau credyd yng Nghymru.
Cynhelir cinio gala eleni yng Ngwesty’r Exchange ym Mae Caerdydd ddydd Iau 19 Hydref i nodi Diwrnod Rhyngwladol Undebau Credyd.
Mae peiriant penderfyniadau Nest Egg wedi bod yn helpu undebau credyd i dyfu eu llyfrau benthyciadau a’u sylfaen aelodau yn sylweddol ers mwy na phedair blynedd.
Dywedodd Adrian Davies, Cyd-sylfaenydd NestEgg: “Rydym yn falch o allu noddi Gwobrau Undebau Credyd Cymru 2023 eto eleni. Mae’r Gwobrau yn gyfle gwych i gydnabod y cyfraniad a wneir i’r sector hwn gan gynifer o sefydliadau ac unigolion.
“Llongyfarchiadau i’r holl enwebeion eleni ac edrychwn ymlaen at fynychu’r seremoni wobrwyo i weld yr enillwyr yn derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol.”
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Gwobrau Undebau Credyd Cymru
yn cyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Undebau Credyd, sy’n dathlu ysbryd y mudiad byd-eang ac yn gweld undebau credyd o bob rhan o Gymru yn cyfuno i anrhydeddu gwaddol gweithio cymunedol.
Dysgwch fwy am NestEgg ewch i https://nestegg.ai/business-blog/