NestEgg Yn Noddi Gwobrau Undebau Credyd Cymru

Mae’r cyflenwr meddalwedd undebau credyd, NestEgg, wedi cytuno i ddod yn brif noddwr Gwobrau Undebau Credyd Cymru eleni.
Bydd y gwobrau blynyddol yn dathlu cyfraniad gwirfoddolwyr, aelodau, ysgolion a chyflogwyr partner i lwyddiant parhaus y mudiad undebau credyd yng Nghymru.
Mae peiriant penderfyniadau NestEgg wedi bod yn helpu undebau credyd i dyfu eu llyfrau benthyciadau a’u sylfaen aelodau yn sylweddol ers mwy na phedair blynedd.
Dywedodd Adrian Davies, Cyd-sylfaenydd NestEgg: “Rydym yn falch o allu noddi Gwobrau Undebau Credyd Cymru 2022 sy’n cydnabod y cyfraniad a wneir i’r sector hwn gan gynifer o sefydliadau ac unigolion.
“Mae’r £1/4bn o fenthyciadau a aseswyd gan ein peiriant penderfyniadau ar ran undebau credyd, wedi dangos yr effaith gadarnhaol y mae’r benthycwyr cyfrifol hyn yn ei gael ar ein cymunedau drwy fabwysiadu agwedd deg a chynhwysol at fenthyca.
“Llongyfarchiadau i’r holl enwebeion eleni ac edrychwn ymlaen at fynychu’r seremoni wobrwyo i weld yr enillwyr yn derbyn cydnabyddiaeth haeddiannol.”
Bellach yn ei bumed flwyddyn, cynhelir y digwyddiad mawreddog ddydd Iau, 20 Hydref 2022 yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, Gwobrau Undebau Credyd Cymru yn cyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Undebau Credyd, sy’n dathlu ysbryd y mudiad byd-eang ac yn gweld undebau credyd o bob rhan o Gymru yn cyfuno i anrhydeddu gwaddol gweithio cymunedol.
I gael rhagor o wybodaeth am NestEgg yma