Pam Ymuno ag Undeb Credyd?
Pan ymunwch ag undeb credyd byddwch yn dod yn aelod o gydweithfa ariannol fyd-eang sy’n ymroddedig i wella lles ariannol miliynau o bobl.
Yng Nghymru mae gennym rwydwaith eang o undebau credyd sy’n darparu lle i aelodau gynilo a chael benthyciadau ar gyfraddau rhesymol.
Fel dewis moesegol amgen i fanciau’r stryd fawr neu fenthycwyr carreg drws, mae Undebau Credyd yn eich rhoi chi – yr aelodau – wrth galon popeth a wnânt. Mae undebau credyd yn eiddo i aelodau ac yn cael eu rhedeg yn ddemocrataidd sy’n golygu y bydd eich llais yn cael ei glywed wrth redeg y sefydliad. Gallwch bleidleisio ar y bwrdd cyfarwyddwyr a helpu i wneud penderfyniadau am y gwasanaethau sydd ar gael oherwydd eich bod yn cael dweud beth sy’n bwysig i chi.
Mae undebau credyd yn trosglwyddo unrhyw “elw” y maent yn ei wneud yn uniongyrchol yn ôl i aelodau trwy rannu blynyddol. Gan nad oes unrhyw gyfranddalwyr i gadw’n hapus, mae undebau credyd yn gallu cynnig cyfraddau gwell a ffioedd is. Mae cyfrifon cynilo yn galluogi aelodau i gynilo symiau bach neu fawr pryd bynnag y gallant. Mae eich cynilion yn ddiogel ac yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a’r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus.
Maent hefyd o fudd i’r gymuned ehangach oherwydd eu bod yn cael eu defnyddio i sicrhau bod benthyciadau ar gael i aelodau eraill. Pan fyddwch angen benthyciad ar gyfer achlysur arbennig fel priodas deuluol neu i brynu car newydd, yna mae Undebau Credyd yn cynnig cyfraddau llog cystadleuol iawn. Codir llog ar falans gostyngol y benthyciad a gallwch ei dalu’n ôl mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys yn uniongyrchol o’ch cyflog os yw’ch cyflogwr yn bartner cyflogres gydag undeb credyd. Mae yswiriant bywyd am ddim wedi’i gynnwys heb unrhyw gost ychwanegol – felly os byddwch yn marw cyn ad-dalu’r benthyciad, byddai’r balans yn cael ei dalu ar eich rhan.
Heb unrhyw gostau cudd a dim cosbau am ad-dalu’r benthyciad yn gynnar, mae’n amlwg pam mae undebau credyd yn denu aelodau o bob cefndir.